The following is the letter sent into the Tivyside from a local resident of Aberporth. Of course the paper edited it slightly so here is the original Welsh text.
Gwaed ar ein dwyloTybed, faint ohonoch chi ddarllenwyr sy¹n dilyn hanes Parc Aberporth - y datblygiad hynod gostus (tua £21 miliwn), ym Mlaenannerch? ŒR wy¹n siwr fod pawb yn yr ardal yn hapus i glywed am y gwaith fydd ar gael yno, cyn bo hir. Ond pe baech yn gwybod taw arbrofi a datblygu peiriannau milwrol, wedi eu creu i ladd a dinistrio, fyddai¹r diwydiant mewn golwg - a fyddech yr un mor frwdfrydig am yr anturiaeth?
Mae llu awyr yr Unol Daleithiau yn defnyddio Maes Awyr Prestwick, i hwyluso¹r cludiant o arfau i Israel. Oes yn rhaid i¹r Cymry dderbyn yr anrhydedd amheus o gyfrannu Œmhellach at gynllun Bush a Blair, wrth ddatblygu¹r Œwenynen ormes (drone)¹/UAV ym Mharc Aberporth? Y rhain yw rhai o¹r peiriannu dieflig a ddefnydir gan Israel i ddifetha Libanus - ei phlant diniwed, a¹i fframwaith.
Teitl y Parc, yn ol Andrew Davies (Gweinidog o¹r Cynulliad), yw ŒCanolfan Rhagoriaeth UAVs¹. Well inni fod yn wyliadwrus, rhag ofn i¹r fenter frwnt yma droi¹n darget ardderchog i derfysgwyr!